Mynediad
Mae’n rhaid i blentyn fod yn yr ysgol yn llawn-amser o ddechrau’r tymor yn dilyn y pumed penblwydd. Ym Mhowys, gellir derbyn plentyn i’r ysgol, ar gais rhieni/gofalwyr, naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser ar ddechrau Tymor yr Hydref yn dilyn y pedwerydd pen-blwydd – dim ond unwaith y derbynnir plant bob blwyddyn academaidd.
Gall plentyn a gafodd ei eni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018 ddechrau ysgol ym Mis Medi 2022
Gall plentyn a gafodd ei eni rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019 ddechrau ysgol ym Mis Medi 2023
Gall plentyn a gafodd ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 ddechrau ysgol ym Mis Medi 2024
Os bydd plentyn yn mynychu darpariaeth cyn-ysgol a gynhelir neu nas cynhelir sy’n gysylltiedig ag ysgol gynradd a bod rhiant/gofalwr yn dymuno i’w plentyn fynychu’r ysgol honno, bydd yn dal yn ofynnol iddynt wneud cais am le yn y Dosbarth Derbyn yn yr ysgol gynradd.
Nid yw cael lle mewn darpariaeth cyn-ysgol sydd ddim yn seiliedig yn yr ysgol yn gwarantu lle yn yr ysgol yn 4 oed a bydd meini prawf yr awdurdod ar gyfer derbyniadau ysgol yn berthnasol os bydd y galw am leoedd mewn grŵp blwyddyn derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael.
Gellir gwneud cais ar-lein am le mewn dosbarth derbyn mewn ysgolion cynradd drwy ymweld â gwefan Powys, www.powys.gov.uk digwydd-ysgolion & myfyrwyr – cais am ysgol.
Meini Prawf Mynediad i’r Ysgol
Lle bo ysgolion yn orlawn mae’n ofyniad o Ddeddf fframwaith & safonau ysgolion, 1998 bod meini prawf yn cael eu cyhoeddi, a ddefnyddir wedyn i benderfynu ar nifer y derbyniadau. Bydd disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig sy’n enwi ysgol ble dylent fynd iddi oherwydd eu hanghenion yn cael lle yn awtomatig.
- Plant sy’n derbyn gofal neusydd wedi derbyn gofal (bydd angen rhoi tystiolaeth am blentyn sydd wedi derbyn gofal gyda’r ffurflen gais).
- Presenoldeb brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol, lle mae’r cartref yn dal i fod o fewn ardal dalgylch yr ysgol pan mae’r plentyn yn dechrau ysgol.
- Lleoliad y cartref os yw o fewn ardal dyraniad presennol yr ysgol.
- Unrhyw anghenion meddygol a chymdeithasol arbennig sy’n berthnasol i’r plentyn unigol, lle bo presenoldeb mewn ysgol benodol yn hanfodol (bydd angen tystiolaeth i gyfynd â’r ffurflen gais).
- Presenoldeb brawd neu chwaer yn yr ysgol, pan nad yw cartref y teulu o fewn ardal neu ddalgylch gwreiddiol yr ysgol pan mae’r plentyn yn dechrau ysgol.
- Lleoliad y cartref mewn perthynas â’r ysgol ac ysgolion eraill os yw y tu allan i ardal dyraniad presennol yr Ysgol.
*Mae brawd/chwaer yn cynnwys hanner brodyr/chwiorydd, llys frodyr/chwiorydd, plant wedi’u mabwysiadu a phlant maeth sy’n byw yn yr un cartref
O fewn pob un o’r meini prawf hyn, dyrennir lleoedd ar sail y pellter cerdded byrraf a mwyaf diogel ac ymarferol i’r ysgol mewn trefn fanwl o bellter, hyd at nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd blaenoriaeth i’r disgybl sy’n byw agosaf at yr ysgol. Mesurir y pellter oddi wrth y pwynt mynediad agosaf ar y briffordd gyhoeddus i’r disgybl *cartref arferol sy’n agosaf at yr ysgol a’u mesur i gât yr ysgol agosaf. Mae’r awdurod lleol yn defnyddio’r System gwybodaeth ddaearyddol Info Map i fesur pob pellter.
*Cartref arferol y rhiant/gofalwr sy’n cael budd-dal plant ar gyfer y disgybl (dyma achos lle mae’r plentyn yn byw gyda rhieni/gofalwyr a rhannu cyfrifoldeb am ran o’r wythnos). Mae awdurdod lleol yn cefnogi egwyddor cyflawni dewis y rhieni lle bynnag a phryd bynnag y mae’n posibl. Fodd bynnag, rhaid cydnabod y gall fod yn bosibl i gydymffurfio â dewis y rhieni os bydd ysgol, yn derbyn plentyn, yn mynd yn groes i’r gofyniad i gydymffurfio â dyletswydd statudo mewn perthynas â maent dosbarthiadau babanod.
Os nad yw’r plentyn yn cael lle yn eu ysgol dewis cyntaf, bydd lle, os yn bosibl, yn ei ail ddewis. Os nad yw’n bosibl cynnig lle naill ai yn yr ysgol dewis cyntaf neu’r ail, neu os na nodwyd ail ddewis ar y ffurflen, bydd yr awdurdod yn rhoi plentyn mewn ysgol arall, mor agos at y cartref â phosibl.
Mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i beidio â rhoi lle i blentyn yn eu hysgol dewis cyntaf neu’r ail, ac amlinellu manylion am sut i wneud hyd mewn llythyr at yr awdurdod, a fydd, gobeithio, yn cyrraedd ar y dyddiad cynnig.
Dylai rhieni sy’n dymuno trosglwyddo eu plentyn i ysgol arall ar unrhyw adeg, am resymau ac eithrio newid cartref, yn y lle cyntaf, drafod y mater gyda phennaeth ysgol bresennol y plentyn i drafod eu rhesymau dros ofyn am newid ysgol. Os, ar ôl trafodaethau, yw’r rhiant yn dymuno trosglwyddo eu plentyn i ysgol arall, dylid cwblhau ffurflen gais; gallwch wneud hyn drwy glicio ar y ddolen ganlynol https://cy.powys.gov.uk/article/7627/Gwneud-Cais-am-Le-Mewn-Ysgol
Trosglwyddo i’r Ysgol Uwchradd
Yn Ysgol Trefonnen rydym yn angerddol am ein disgyblion gael y dechrau gorau yn eu haddysg, o’r funud y maent yn ymuno â ni at y pwynt lle maent yn gadael i barhau ar eu taith. Fel rhan o’n hymrwymiad iddynt, ein nod yw i wneud eu trosglwyddo o Ysgol Trefonnen i’w hysgol uwchradd mor esmwyth ag sy’n bosibl. Rydym yn deall y gall y broses bontio fod yn frawychus i rai ac felly yr ydym yn ofalus i ddarparu rhaglen strwythuredig a chefnogol sy’n cynnwys cyswllt agos gyda’r ysgolion uwchradd y mae ein pobl ifanc yn symud iddynt. Datgelodd arolwg diweddar bod ein pobl ifanc sy’n gadael blwyddyn 6 yn unfrydol bod disgyblion yn teimlo bod yr ysgol hon wedi eu cefnogi’n llawn ac yn eu paratoi ar gyfer eu trosglwyddo a’u bod yn gallu ateb yr heriau sydd i ddod gyda hyder.