Gwirfoddolwyr

Os teimlwch fod gynnoch chi sgil arbennig a fyddai’n ddefnyddiol i ni yn yr ysgol, yna, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni, ac fe geisiwn ni wneud defnydd ohoni. Garddio, rhedeg neu goginio, er enghraifft.

Efallai yr hoffech hefyd ystyried dod yn un o lywodraethwyr yr ysgol pan fydd swydd yn codi. Hysbysebir swyddi gwag i bob rhiant drwy’r ysgol.