Dillad Ysgol
Gellir archebu gwisg ysgol o Performance Clothing. Gwnewch yn siwr fod enw eich plentyn i’w weld yn glir ar y wisg ysgol.
Rydyn ni’n gwerthu gwisg ysgol ail-law am £1.00 yr eitem. Gofynnwch i staff y swyddfa am y wisg ysgol ail-law. Derbynnir gwisgoedd ail-law yn ddiolchgar er mwyn i ni allu adnewyddu’r stoc.
Gofynnwn i’r plant ddod i’r ysgol mewn dillad addas bob adeg o’r flwyddyn. Dewis anaddas ydy esgidiau ysgafn ym mis Rhagfyr!
Ymarfer Corff
Mae Addysg Gorfforol yn rhan annatod o’r Cwricwlwm, ac y mae pob dosbarth yn cael o leiaf un wers bob wythnos. Mae hi’n hanfodol fod pob plentyn yn gwisgo’r cit priodol, ac awgrymwn fod y plentyn yn dod â’r cit i’r ysgol ar Ddydd Llun, ac yn ei adael yn yr ysgol tan Ddydd Gwener.
- Cit Ymarfer Corff y Cyfnod Sylfaen – siorts a crys-t (efallai bydd angen pymps fel yr â’r plant yn yn hŷn).
- Cit Ymarfer Corff Cyfnod Allweddol 2 – siorts, crys-t, esgidiau addas ar gyfer chwaraeon dan do a thu allan. Ar dywydd oer byddai trowsus jogio a siwmper yn bwrpasol, efallai.
Nofio
Fel ysgol, credwn fod nofio yn bwysig iawn fel un o sgiliau bywyd, a rydyn ni’n falch ein bod yn gallu cynnig gwersi nofio i’r plant. Cynhelir y gwersi ar Ddydd Mercher, drwy gydol y flwyddyn ysgol, i bawb ar rota.
Mae’r plant yn gyfrifol am ddod â’u cit i’r ysgol. Dylai gynnwys gwisg/trowsus nofio a thywel. Mae’n rhaid i drowsus nofio’r bechgyn fod yn fyr, uwchben y penglin.
Os ydy plentyn yn dymuno gwisgo gogls, mae’n rhaid i Rieni/Gofalwyr arwyddo ffurflen, sydd ar gael o’r swyddfa. Y plentyn fydd yn gyfrifol am y gogls, ac y mae’n rhaid iddyn nhw allu eu rhoi ymlaen a’u tynnu i ffwrdd a’u gosod yn iawn eu hunain.
Fel gyda Ymarfer Corff y mae’n rhaid rhwymo gwallt hir yn ôl yn ddiogel a thynnu gemwaith. Mae’n rhaid i blentyn fedru gwneud hynny ei hunan.
Mae bws yn cario’r plant i’r Pwll Nofio, ac fe ofynnir am dâl o £1.50 â’r ParentPay am bob plentyn bob tro maent yn mynd i nofio.