Ein Ysgol
Croeso i Ysgol Trefonnen sydd wedi’i lleoli yn Llandrindod Wells, Powys.
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu’n hwyl i bawb.
Creuwyd ein gweledigaeth gan ddisgyblion, rhieni/gofalwyr, athrawon, staff, llywodraethwyr a chymuned Ysgol Trefonnen ac mae’n cael ei harolygu yn flynyddol. Mae’n esbonio sut rydym yn teimlo am yr ysgol a beth hoffem gyflawni. Er mwyn helpu i gyflawni’r weledigaeth hon, mae gennym bedwar datganiad cenhadaeth:
- Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog – Mae dysgwyr yn barod i ymestyn eu gwybodaeth a’u sgiliau, cyfathrebu’n effeithiol a datrys problemau mewn ystod o gyd-destunau.
- Cyfranwyr Mentrus a Chreadigol – Mae dysgwyr yn barod i fynegi eu creadigrwydd, cofleidio her a datblygu sgiliau entrepreneuraidd drwy waith annibynnol a chydweithredol.
- Dinasyddion Moesegol a Gwybodus – Mae dysgwyr yn barod i barchu eu hunain ac eraill, a deall eu cyfrifoldeb i’r gymuned, cynaliadwyedd a’u cyfrifoldeb i’r blaned.
- Unigolion Iach a Hyderus – Mae dysgwyr yn barod i sefydlu a chynnal perthnasoedd ystyrlon a gwneud penderfyniadau iach sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu lles corfforol a meddyliol.
Bob blwyddyn rydym yn cytuno ar beth mae’n rhaid ei wneud i gyflawni’r weledigaeth trwy’r datganiad ethos sy’n cael ei roi i rieni a phobl sy’n gysylltiedig â’r ysgol, hefyd rydym yn gofyn pa mor dda oeddem llynedd i fonitro cynnydd. Mae pob polisi a gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysgol Trefonnen yn seiliedig ar y weledigaeth a’r datganiadau ethos.
Ysgol Eglwys ddwy ffrwd, wirfoddol reoledig, gymunedol i blant 4-11 oed yw Ysgol Trefonnen; mae rhai o’r plant yn dysgu’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy gyfrwng y Saesneg. Ond, mae’r plant i gyd yn rhannu’r un profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol y mae wyth ystafell ddosbarth, ystafell i rieni a’u plant bach, Ti a Fi, grwp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Saesneg) a Chylch Meithrin.
“Mae Cymru yn falch o gael dwy iaith genedlaethol: Saeneg a Cymraeg. Nod hir dymor Llywodraeth Cymru yw y bydd Cymru yn wlad gwbl ddwyieithog…lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder ni i gyd.” (Iaith Pawb, WAG)
Rydyn ni’n hyrwyddo cyfleoedd i’n plant i gyd i ddathlu eu diwylliant, eu hetifeddiaeth a’r iaith Gymraeg, drwy ddigwyddiadau Dydd Gwyl Dewi a chystadlu mewn Eisteddfodau. Tra mae’r plant yn y Ffrwd Gymraeg yn dysgu drwy’r Gymraeg yn bennaf, mae’r plant yn y Ffrwd Saesneg yn cael budd o ddysgu Cymraeg fel ail iaith trwy ddarllen, ysgrifennu a siarad a chlywed Cymraeg yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol. Fel ysgol, y mae gynnon ni gysylltiadau agos a’r Eglwys leol a’i harweinwyr sy’n cael effaith gadarnhaol ar ethos Gristnogol yr ysgol. Rydym yn ymfalchio yn ein hysgol a’i hamyrgylch hapus, hamddenol a bwriadus. Mae gynnon ni amgylchfyd cynnes, diogel ac ysgol sydd yn ein galluogi i anelu at ddarganfod y gorau ym mhob plentyn.
Croesawn ymwelwyr i’n hysgol a buasem yn mwynhau cael y cyfle i ddangos yr ysgol i chi.
Gwerthoedd Ein Hysgol
Iach
Hyderus
Parchus
Creadigol
Cynhwysol
Gyda’n Gilydd
Uchelgeisiol
Tosturiol