Clwb ar ôl Ysgol
Cynhelir clwb ar ôl ysgol yn y neuadd rhwng 3.30 a 5.30 bob dydd. Mae angen i Rieni/Gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru os ydyn nhw’n dymuno i’w plant fynychu’r clwb. Mae’r ffuflenni ar gael gan y staff sy’n arwain y clwb.
Mae byrbryd ar gael i’r plant pan mae’n nhw’n cyrraedd ac fy fyddan nhw’n cymryd rhan mewn nifer o wahanol gemau a gweithgareddau fel y dymunan nhw. Codir tâl, ac y mae faint y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o amser y mae’r plant yn eu dreulio yn y clwb.
3.30 – 4.30pm = £4
3.30 – 5.00pm = £5
3.30 – 5.30pm = £6
Os bydd eich plentyn yn dod i’r clwb o weithgaredd arall, fydd y tâl hefyd yn £4.