Cysylltiadau Â’r Eglwys

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ydy Ysgol Trefonnen. Fel Ysgol Eglwys rydyn ni’n ceisio hyrwyddo Gwerthoedd Cristnogol, fel ymddiriedaeth, maddeuant a diolchgarwch, yn ogystal ag Ethos Gristnogol. Bydd Addoliad ar y Cyd yn digwydd bob dydd, ac rydym hefyd yn dod at ein gilydd fel ysgol gyfan neu mewn ffrydiau. Mae cysylltiad agos rhwng yr ysgol ag Eglwys y Drindod Sanctaidd, a daw’r Ficer ar ymweliad â’r ysgol yn wythnosol.

Mae Gwasanaethau yn amser pwysig iawn ym mywyd unrhyw Ysgol. Mewn Ysgol Eglwys, mae, o bosibl, yn bwysicach fyth gan ei fod yn rhoi cyfle i’r ysgol i ymuno yn y weithred ganolog sy’n nodi mai Cristnogol ydy cymeriad yr ysgol. Cynhelir gwahanol wasanaethau gydol yr wythnos, yn cynnwys gwasanaeth ‘ysgol gyfan’ yn cael ei arwain gan un o glerigwyr y plwyf. Cynhelir gwasanaethau Cofnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 ar wahan,a gwasanaethau Ffrwd Saesneg a Ffrwd Gymraeg a chyfle i ddosbarthiadau weddio gyda’i gilydd. Trwy gyffrwng ein gwasanaethau datblygwn werthoedd fel rhannu, gonestrwydd a pharch. Mae’r rhain yn werthoedd pwysig sy’n cefnogi ethos yr ysgol. Bob wythnos cynhelir Gwasanaeth Gwobrwyo i ddathlu llwyddiannau unigolion, dosbarthiadau a’r ysgol. Mae gan Rieni/Gofalwyr yr hawl i wneud cais i’w plant gael eu hesgusodi, yn rhannol neu gyfangwbl, o’r weithred o Addoli ar y Cyd. Mae modd gwneud trefniadau eraill ar gyfer eich plentyn, os mai dyna ydy’ch dymuniad. Dewch i drafod hyn gyda’r Pennaeth, os gwelwch yn dda.