Dosbarthiadau
Cyfnod Sylfaen
Mae’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant sydd yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Yn ein hysgol ni, mae’r Cyfnod Sylfaen yn cwmpasu Dosbarth Harlech a Dosbarth Y Bala (dosbarthiadau Ffrwd Saesneg lle caiff y Gymraeg ei haddysgu fel ail iaith) a Dosbarth Llyn y Fan a Dosbarth Cantre’r Gwaelod (dosbarthiadau Ffrwd Gymraeg lle mae’r holl ddysgu’n cael ei gwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg). Mae plant yn dechrau ar y Cyfnod Sylfaen ym mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.
Mae cylch y dysgu yr un fath â’r cylchoedd a nodir yn y cyfnod Cyn ysgol can ychwanegu Addysg Grefyddol a Cymraeg fel ail-iaith yn ein dosbarthiadau ffrwd Saesneg. Dysgir drwy ymarfer sgiliau yn cael ei gefnogi gan chwarae dychmygus, gan ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru.
Cyfnod Allweddol 2
Mae Cyfnod Allweddol 2 yn cynnwys Blynyddoedd 3 i 6 – Dosbarth Cantre’r Gwaelod a Tryweryn yn y Ffrwd Gymraeg a Cilmeri a Beddgelert yn y Ffrwd Saesneg. Mae’r dosbarthiadau Cymraeg yn parhau i ddysgu drwy gyfrwng Y Gymraeg, er fod gwersi Saesneg yn cael eu cyflwyno yn y cyfnod hwn. Yn y Ffrwd Saesneg, parheir i ddysgu Cymraeg fel ail-iath. Yma eto rydyn ni’n dilyn argymhellion Llywodraeth Cymru.
Dyma bynciau gorfodol y Cwricwlwm Cenedlaethol:
- Mathemateg
- Saesneg
- Gwyddoniaeth
- Cymraeg (fel ail-iaith yn y Ffrwd Saesneg)
- Cymraeg (fel iaith gyntaf yn y Ffrwd Gymraeg)
- Dylunio a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Hanes
- Daearyddiaeth
- Crefft a Dylunio
- Cerddoriaeth
- Addysg Gorfforol (yn cynnwys nofio)
Mae dyletswydd cyfreithiol ar yr ysgol i ddysgu Addysg Grefyddol (AG). Er hynny, mae hawl gan Rieni/Gofalwyr i wneud cais am i’w plant gael eu hesgusodi o wersi AG ac Addoli ar y Cyd. Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â’r agwedd grefyddol i wersi a gwasanaethau’r ysgol, yna, gallwch drafod hyn gyda’r Pennaeth.
Rydyn ni, hefyd, yn dysgu Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) ac Addysg Iechyd drwy’r ysgol, yn ogystal ag Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ABCDF).