Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Trefonnen

‘Cefnogi plant i gael y gwytnwch, yr optimistiaeth a’r hyder i ffynnu’

Yma yn Ysgol Trefonnen rydym yn falch o’n hymdrechion i ddarparu addysg gynhwysol sydd yn galluogi pob plentyn i gyrraedd eu potensial. Rydym yn meithrin cynnydd pob plentyn trwy sicrhau fod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cydnabod, eu dathlu a’u cefnogi.

Os dynodir eich plentyn fel un sydd ag angen ychydig o gymorth ychwanegol i gefnogi’i ddysgu, efallai y cynigir iddynt amrediad o atebion creadigol i’w cefnogi. Gall hyn gynnwys rhai sesiynau 1-1 neu sesiynau grwpau bychan, yn cymryd rhan yn un o’n rhaglenni dysgu a gynigiwn. Gall hyn gynnwys cymorth ychwanegol yn y dosbarth, gyda un o nifer o ddarpariaethau ychwanegol sydd gennym yn dibynnu ar anghenion eich plentyn. Weithiau gall hyn olygu defnyddio bwrdd uchel ar gyfer y rhai sy’n ei chael hi’n anodd i eistedd am gyfnodau hir neu amddiffynnydd clustiau i’r rhai sydd angen cymorth i ganolbwyntio mewn stafell ddosbarth prysur. Gall y cymorth ychwanegol olygu defnyddio rhaglen dysgu benodol sydd ar gael drwy ddefnyddio un o’n gliniaduron cefnogi, mae’r opsiynau ar gyfer y cymorth hwn yn eang ac amrywiol ond yn uniongyrchol ar gyfer anghenion eich plentyn. Rhennir y trefniant cefnogi hwn gyda chi a’i amlinelli mewn dogfen o’r enw CDDC (Cynllun Darpariaeth Dysgu Cyffredinol). Adolygir y gefnogaeth hon a chynnydd eich plentyn gyda chi yn rheolaidd.

Os dynodir eich fod eich plentyn angen cymorth cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol ychwanegol byddant yn derbyn rhaglen gefnogi benodol. Mae’n debygol y bydd hyn gyda ein ‘Tîm Hafan Fechan’ profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant addas. Mae’r gefnogaeth hon weithiau yn cael ei gynnig drwy waith grŵp, weithiau gyda chyfres o sesiynau 1:1. Mae gan y Tîm Hafan Fechan ystod i gymwysterau cydnabyddedig yn cynnwys ‘ELSA’ (Emotional Learning Support Assistants), TIS (Trauma Informed School Diploma) a Thrive (cymhwyster lles meddyliol). Bydd sesiynau cefnogi yn cael eu strwythuro trwy ystod o drywyddau creadigol yn cynnwys Therapi Lego, sesiynau crefft, amser cylch ac ysgol y goedwig. Hefyd, mae gennym ni therapydd-chwarae yn yr ysgol un diwrnod yr wythnos sydd yn cefnogi plant penodol.

Rydym yn falch o allu cynnig amrywiaeth o brofiadau lles i ateb gofynion ein disgyblion yn cynnwys teithiau i fferm alpaca yn Aberhonddu, cyrsiau preswyl lles blynyddol yn y Ganolfan Honeypot a gwaith triniaethol gydag anifeiliad yn ein fferm undydd sydd yn dod i’r ysgol.

Mae’r gefnogaeth iechyd meddyliol a lles ein disgyblion yn bwysig iawn i ni a rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod pob dosbarth yn rhoi cyfleoedd i bob plentyn deimlo ein bod yn gwrando arnynt. Wrth i chi fynd o amgylch yr ysgol gwelwch fod rheolau a sustemau clir i’w gweld, ‘Corneli Tawel’ ym mhob dosbarth, darpariaeth creadigol i gefnogi rheolaeth emosiynol ac oedolion sydd wedi eu hyfforddi i gefnogi anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiado plant.

Os na ellir cefnogi anghenion eich plentyn drwy CDDC a chydnabyddir fod ganddynt ‘anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu os oes ganddo anabledd sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio ein cyfleusterau’ bydd ei anghenion yn cael ei cydnabod fel Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd ei cefnogaeth yn cael ei nodi mewn CDU (Cynllun Datblygu Unigol). Edrychwch ar y Pwerpwynt atodol am fwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda. Rydym yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys i sicrhau ein bod yn derbyn cymorth o asiantaethau allanol i gefnogi bob plentyn sydd yn y categori hwn.

ALN Information Powerpoint

Os teimlwch y byddai eich plentyn yn elwa ar dderbyn unrhyw gymorth ychwanegol yn yr ysgol neu os rydych yn poeni am ei cynnydd ewch i drafod hyn gyda’r athrawes ddosbarth yn y lle cyntaf. Fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddaf wedyn yn sicrhau fod eich plentyn yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Edrychwn ymlaen i gydweithio â chi,

Mrs Motton

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

alnco@trefonnen.powys.sch.uk