Mae gennym ein Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd ein hunain yma yn Ysgol Trefonnen, sef yr unig ysgol ym Mhowys ar hyn o bryd i gael un yn ei swydd. Mae Jen yn gweithio’n agos gyda’n teuluoedd ac yn eu cefnogi i ymgysylltu â bywyd ysgol.
Un prosiect pwysig i ni yma yn Ysgol Trefonnen yw’r Rhaglen SHEP, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei chydlynu a’i rhedeg gan Jen yn ystod gwyliau’r Haf. Mae’n rhad ac am ddim i’n teuluoedd ac yn agored i blant yn CA2. Darperir brecwast a chinio am ddim yn ogystal â gweithgareddau corfforol, sesiynau maeth a thripiau dydd.
Mae Jen ar gael bob dydd ar gyfer cymorth, sgwrs, neu gyfeiriad at wasanaethau eraill a allai helpu. Mae croeso i bawb.
Cynhelir Haddau Onnen bob bore Gwener am 8.30am. Gwahoddir rhieni a phlant i gynilo gyda’r Undeb Credyd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Jen.